Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol
Rhagfyr 2023
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd
Mark Isherwood AS, Cadeirydd
Aelodau
· Altaf Hussain AS
· Mike Hedges AS
· Delyth Jewell AS
· Sarah Murphy AS
· Peredur Owen Griffiths AS
· Sioned Williams AS
Megan Thomas (Anabledd Cymru), Ysgrifenyddiaeth.
Rebecca Phillips (Cofnodion), Cynghorydd Teresa Carberry, Marg McNiel, William Fawcett, Tracey Blockwell, Trevor Palmer, Jan Thomas, Andrea Gordon, Shaun Bendle, Kerry Bevan, Branwen Jones, Owen Williams, Lesley Clarke, Lee Parsons, Matt Innes, Gareth Marshall, Sarah Hughes, Bethany Handley, Shahd Zorob, Cath Lewis, Morvenna Richards, Becky Ricketts, Ian Bellin, George Lockett, Miranda Evans, Kirsty Rees, Kelly Stuart, Liz Williams, Zoe Richards, Leandra Craine, Kat Watkins, Sioned Williams MS, Cari Jones, Amanda Say, Rhian Davies, David Rowlands, Ross Thomas, Joe Powell, Andrea Boyce, Petra Kennady, Chris Dunn, Christine Stewart, Hilary McClean (palandeipio), Gary Simpson, Jenny Carroll, San Leonard, Monique Craine, Ian Patton, Sheryll Holley (palandeipio), Jan Underwood, Ryland Doyle, Lara Warlow, Lorraine Cosgrove, Jack Dunne, Sophie Mason, Andrew Harper, Ann Pankhurst, Hannah Peeler, Lowri Bartrum, Maggie Hayes, Joel Weston.
Dyddiad:16/02/2023
Siaradwyr:Marg McNiel (See Around Britian), Lesley Clarke (DWP), Matthew Innes (DWP), Andrea Gordon (Cŵn Tywys Cymru), Cath Lewis (Cŵn Tywys Cymru), Sarah Hughes (SENCOM a Chadeirydd Cymdeithas Addysgwyr Nam ar y Golwg Cymru) , Branwen Jones (Cŵn Tywys Cymru).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: I ddechrau, cafodd y grŵp y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i hyrwyddo See Around Britian. Yna rhoddodd Lesley Clarke gyflwyniad ar waith Tîm Eiriolaeth y Gwasanaethau Anabledd. Nod cyffredinol y tîm yw cryfhau dyhead y llywodraeth i helpu pobl anabl i gael gwaith a chadw eu swyddi. Yna cafwyd sesiwn Holi ac Ateb gyda Lesley Clarke a Matthew Innes. Yn olaf, rhoddodd Sarah Hughes, Branwen Jones, Andrea Gordon a Cath Lewis gyflwyniad ar wasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg a’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau sefydlu yng Nghymru.
Dyddiad:08/06/2023
Siaradwyr:Marg McNeill (See Around Britain), Cari Jones, David Rowlands (Tai Pawb), Ross Thomas (Tai Pawb), Shaun Bendle (Pwer Cyfartal Llais Cyfartal).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafodd y Grŵp y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed i hyrwyddo gwaith See Around Britain. Rhoddodd David Rowlands gyflwyniad i’r Grŵp ar yr hawl i dai digonol, ac yna cafwyd cyflwyniad gan Ross Thomas ar hynt deddfwriaethol yr ymgyrch. Roedd y papur gwyrdd a ddeilliodd o hyn ar agor tan ganol mis Medi. Cari Jones oedd y cyflwynydd nesaf a soniodd am yr ymgyrch i Ddiddymu Taliadau Gofal yn Lloegr gan ddweud y dylid cael ymgyrch debyg yng Nghymru. Yn olaf, rhoddodd Shaun Bendle gyflwyniad ar raglen fentora Pwer Cyfartal Llais Cyfartal. Pan ofynnwyd a oedd unrhyw fater arall, tynnodd Mark Isherwood AS sylw at ei waith fel Cadeirydd ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i benodiadau cyhoeddus. Roedd hefyd wedi arwain dadl yn y Senedd ar Fil Iaith Arwyddion Prydain ond mae angen iddo ennill y balot i gyflwyno Bil Aelodau Preifat.
Dyddiad:21/09/2023
Siaradwyr: Marg McNiel (See Around Britian), Gary Simpson, Ian Stanton, Zoe King (Diverse Cymru).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafodd y Grŵp y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed i hyrwyddo gwaith See Around Britain. Yna, cafwyd cyflwyniad gan Gary Simpson ar ei brofiadau ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, y problemau hygyrchedd yng ngorsafoedd trenau a bysiau yng Nghymru a pha mor anodd yw hi i wneud cais am bas bws. Yna, rhoddodd Ian Stanton gyflwyniad ar gau canghennau banc Lloyds, sut mae colli’r gwasanaethau hyn yn effeithio arno a’r ffaith nad oes dim, neu fawr ddim, ymgynghori â thrigolion cyn cau banciau. Pan ofynnwyd a oedd unrhyw fater arall, dywedodd Zoe King fod Diverse Cymru yn awr yn Hyrwyddwyr Taith, sef rhaglen gyfnewid ym maes dysgu rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Agorodd yr alwad nesaf am gyllid ar 5 Hydref.
Dyddiad:07/12/2023
Siaradwyr: Joel Weston (yr Adran Gwaith a Phensiynau)
Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gyda Mark Isherwood AS a Megan Thomas yn cael eu hailethol yn Gadeirydd ac Ysgrifennydd y Grŵp, yn y drefn honno. Yna, cafwyd cyflwyniad gan Joel Weston ar ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau i'r argyfwng costau byw. Tynnodd Joel sylw at y ffaith eu bod wedi gorfod ymateb i’r argyfwng ar fyrder ond pwysleisiodd y taliadau cymorth costau byw a oedd ar gael. Tynnwyd sylw arbennig at broblemau gyda’r system bresennol wrth i bobl geisio cael Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP), Credyd Cynhwysol ac Asesiadau Gallu yn y Gweithle. Yn olaf, arweiniodd Mark Isherwood drafodaeth ar y potensial i gynnal Uwchgynhadledd Anabledd Cymru yn 2024, a hynny’n dilyn Uwchgynhadledd Anabledd yr Alban a gynhaliwyd fis Tachwedd diwethaf.
See Around Britain
Cŵn Tywys Cymru
SENCOM a Chadeirydd Cymdeithas Addysgwyr Nam ar y Golwg Cymru)
Tai Pawb
Pwer Cyfartal Llais Cyfartal (Clymblaid rhwng Anabledd Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig a Stonewall Cymru).
Diverse Cymru
Adran Gwaith a Phensiynau LLywodraeth y DU
Datganiad Ariannol Blynyddol
Rhagfyr 2023
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd
Cadeirydd:Mark Isherwood AS
Ysgrifennydd: Megan Thomas (Anabledd Cymru)
Treuliau’r Grŵp |
Palandeipio Hilary McClean -
08/06/2023 21/09/2023
Sheryll Holley -
21/09/2023 07/12/2023 |
£320
£160 £160
£360
£180 £180 |
Cost yr holl nwyddau |
|
£680 |
Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol |
Dim |
£0 |
Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall |
Anabledd Cymru sy’n darparu gwasanaethau ysgrifenyddol ar gyfer y Grŵp |
£0 |
Cyfanswm y gost |
|
£680 |
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch |
||
Dyddiad: |
Disgrifydd |
Costau |
Dim |
Dim |
£0 |
Cyfanswm y gost |
|
£0 |